Login
Start Free Trial Are you a business? Click Here
Anonymous
Prynwyd 3 bocs o wymon i'w rhoi fel anrhegion pen blwydd a Nadolig. Mae'n anrheg hyfryd ac anghyffredin yfmbi ac yn un i'w fwynhau mewn baddon adref. Mae'r cynnyrch yn un cwbl naturiol y gellir ei ailddefnyddio deirgwaith ac yna ei ailgylchu sydd eto'n wych! Mae modd i Halen Môn wella ar gysyniad y baddon gwymon drwy ychwanegu cwdyn defnydd fel sydd yn y llun isod gan wneud y pecyn hwn hyd yn oed yn fwy deiniadol. Am y rheswm yna'n unig rwy'n rhoi 4 seren iddynt. Prynais y cwdyn defnydd gan gwmni gwneud caws yn y Lloegr; nhw oedd y rhataf ag eithro Amazon ac roedd yn well gen i gefnogi busnes bach. Credaf y buasai Halen Môn unai'n gallu gwerthu'r bocs yn cynnwys cwdyn defnydd neu hebddo. Cost un bocs o wymon gyda'r cwdyn defnydd i mi oedd £26.12(cost am 3 cwdyn oedd £18.35 a oedd yn cynnwys y £4.40 p&p)
1 year ago
Read Halen Môn - Anglesey Sea Salt Reviews
Halen Môn - Anglesey Sea Salt has a 5.0 average rating from 1,303 reviews